Datganiad hygyrchedd am Gofrestru eich ôl-gerbyd i’w gymryd dramor
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Rydyn ni eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo mewn hyd at 300% a bod y testun i gyd yn dal i ffitio ar y sgrin
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae cyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych chi anabledd ar gael yn AbilityNet.
Pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn
Mae’r gwasanaeth Cofrestru Ôl-gerbyd DVLA yn hygyrch yn unol â’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Ceisiadau Gwefannau a Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio â’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe Safon AA fersiwn 2.1.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes arnoch angen gwybodaeth am y wefan hon mewn fformat gwahanol megis print mawr, hawdd i’w ddarllen, recordiad sain neu braille:
E-bostiwch ein tîm Cyfathrebu Allanol a byddwn yn gweld a allwn helpu.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r gwasanaeth hwn
Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os byddwch chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau neu’n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni trwy e-bost yn: trailer@dvla.gov.uk.
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Ceisiadau Gwefannau a Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn
Cael gwybod sut i gysylltu â ni yn: contact-the-dvla
Sut y gwnaethom brofi'r gwasanaeth hwn
Roedd y gwasanaeth llawn wedi ei brofi diwethaf ar 7 Hydref 2020 gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol..